Rhodd Elusennol Maer
Pleser oedd mynychu gwasanaeth y pnawn ‘ma yn Ysgol y Castell. Wedi y cyngerdd yn mis Medi a drefnwyd gan ein Clerc a’r Maer cawsom elw o £800. Rhanwyd yr elw rhwng Pwyllgor Apel Rhuddlan, Dyserth, Rhyl a Bodelwyddan tuag at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych 2020 a Mudiad Clic Sargant yng Ngogledd Cymru. Yn ychwanegol cafodd y Maer siec o £15 gan un o drigolion y dref i gyflwyno i’r achos da olaf.
Yn y llun gwelir y Maer yn cyflwyno £415 i Miss Sophie Meadows.

