Coffi, mins peis a Carolau yn Rhuddlan
Cafodd Grŵp Dementia Rhuddlan fore coffi gwych gyda mins peis a charolau. Cynhaliwyd y digwyddiad i hyrwyddo gwaith y Grŵp wrth ddarparu gwybodaeth am ddementia yn Rhuddlan ynghyd â rhoi cyhoeddusrwydd i weithgareddau’r Grŵp fel Music Memories a Sit and be Fit, sydd ar agor i bawb ac yn rhydd i fynychu.
Daeth aelodau o Côr Clwyd i’r bore coffi i roi hwb i’r canu carolau. Daeth y Cynghorydd Arwel Roberts sy’n gadeirydd Côr Clwyd ac o’r Grŵp Dementia draw yn ei wisg Siôn Corn – dywedodd fod y digwyddiad wedi bod yn llwyddiannus iawn – nid yn unig rydym wedi rhoi cyhoeddusrwydd i waith y Grŵp Dementia ond bod pawb wedi mwynhau’r carolau a’r lluniaeth a gwnaethom hefyd godi £ 140 o’r raffl ac o roddion gan bobl.
Mae gwybodaeth am waith Grŵp Dementia Rhuddlan ar gael gan yr Ysgrifennydd Mike Kermode ffôn. 07801768878

