Cyngor ar sut i baratoi gwastraff i’w gasglu
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynghori cartrefi ar y ffordd orau i baratoi gwastraff i’w gasglu yn ystod yr achosion o Coronafirws.
Mae biniau bwyd, glas a du yn parhau i gael eu casglu fel arfer, ond gofynnir i breswylwyr helpu i amddiffyn staff y cyngor.
Gall aelodau’r cyhoedd gynorthwyo trwy gadw eu pellter oddi wrth griwiau casglu gwastraff i’w cadw’n ddiogel ac i gadw cynwysyddion gwastraff mor lân â phosibl, glanhau dolenni a chaeadau biniau cyn ac ar ôl eu casglu.
Mae ymchwil yn awgrymu y gall y firws aros yn fyw ar rai eitemau gwastraff, fel plastig, am hyd at 72 awr.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, aelod arweiniol y Cyngor dros Wastraff, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd: “Mae ein staff casglu gwastraff yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn i breswylwyr. Er mwyn sicrhau eu diogelwch, ac i helpu i gadw’r gwasanaeth i redeg, rydym yn gofyn i breswylwyr helpu trwy baratoi eu gwastraff i’w gasglu yn y ffordd fwyaf diogel posibl.
“Os oes gan unrhyw un yn eich cartref unrhyw symptomau, storiwch eich gwastraff am o leiaf dri diwrnod cyn eich diwrnod casglu. Dim ond gwastraff sy’n dridiau neu’n hŷn sy’n ddiogel i’w roi allan i’w gasglu os oes gan aelodau o’ch cartref symptomau.
“Os oes gennych symptomau, dylid rhoi gwastraff fel hancesi papur a gwastraff hylendid personol mewn bag a’i glymu ac yna ei roi mewn ail fag a’i glymu. Unwaith eto, dim ond os ydych wedi ei storio am o leiaf dri diwrnod cyn ei gasglu y mae’r math hwn o wastraff yn ddiogel i’w roi allan.
“Hoffwn ddiolch i’r trigolion am gydweithio yn ystod y cyfnod hwn.”
Atgoffir preswylwyr, p’un a oes ganddynt symptomau ai peidio, i beidio â rhoi hancesi papur a chadachau papur yn eich ailgylchu, rhaid eu rhoi mewn bagiau a’u rhoi yn eich bin du / sachau gwaredu pinc. Ni dderbynnir hancesi papur fel rhan o raglen ailgylchu’r Cyngor.
Matthew Jones
Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu – Public Relations and Communications Officer
Communities and Customers / Cymunedau a Chwsmeriaid
01824 712604
matthew.l.jones@sirddinbych.gov.uk

