Datganiad newyddion gan Gyngor Sir Ddinbych
Dyddiadau 2022 Ar Gyfer Gwirio Pwysau Carafanau/Faniau Gwersylla A Rhoi Cyngor Diogelwch Am Ddim
Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych yn cynnig sesiynau pwyso carafanau a chyngor am ddim.
Gall preswylwyr sy’n mynd ar eu gwyliau mewn carafán neu fan wersylla wneud yn siŵr nad ydynt yn gorlwytho eu cerbyd neu garafán a rhoi eu hunain mewn perygl.
Mae’r sesiynau pwyso carafanau a rhoi cyngor am ddim ar gael i breswylwyr Sir Ddinbych a Chonwy ac i rai o ardaloedd awdurdodau lleol eraill os ydynt yn gallu teithio i’r lleoliad.
Sesiwn i roi cyngor ydyw ac ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau os byddwn yn darganfod gorlwytho neu broblemau eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i leihau’r llwyth.
Bydd y gwiriadau pwysau rhad am ddim yn cael eu cynnal ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amserau canlynol:
Dydd Gwener 01/04 – 9.30am – 2pm
Dydd Sadwrn 09/04 – 8am – 1pm
Dydd Gwener 06/05 – 9.30am – 2pm
Dydd Sadwrn 21/05 – 8am – 1pm
Dydd Gwener 17/06 – 9.30am – 2pm
Dydd Gwener 15/07 – 9.30am – 2pm
Dydd Sadwrn 30/07 – 8am – 1pm
Dydd Gwener 12/08 – 9.30am – 2pm
Dydd Gwener 26/08 – 9.30am – 2pm
Dydd Sadwrn 10/09 – 8am – 1pm
Dydd Gwener 23/09 – 9.30am – 2pm
Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn annod perchnogion carafanau a faniau gwersylla i gymryd mantais o’r sesiynau pwyso a rhoi cyngor am ddim a gynhelir gan dîm Safonau Masnach Sir Ddinbych ar y cyd â chydweithwyr o Gonwy.
“Mae’n bwysig gwneud yn siŵr nad ydych yn gorlwytho eich cerbyd neu garafán, ac felly yn eich amddiffyn eich hun ac eraill.”
Nid oes rhaid i chi wneud apwyntiad, dim ond dod i’r bont bwyso ar un o’r dyddiadau uchod i weld a yw pwysau’ch cerbyd o fewn y terfynau cyfreithiol. Mae’r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, mewn cilfan, a bydd arwyddion i ddweud fod y bont ar agor.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau mae croeso ichi gysylltu â Safonau Masnach Sir Ddinbych ar safonaumasnach@sirddinbych.gov.uk neu ewch ar eu tudalen Facebook; neu Safonau Masnach Conwy ar Safonau.masnach@sirconwy.gov.uk
