CADWCH YN WYBODUS

Lunio Dyfodol Cymru

Community Events

Rhannwch y Post:
Heddiw rydym wedi cyhoeddi'r ymgynghoriad ar Lunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Cerrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl (cam dau) - Cynigion ar gyfer gosod yr ail gyfres o gerrig milltir cenedlaethol i Gymru

Lunio Dyfodol Cymru

Heddiw rydym wedi cyhoeddi’r ymgynghoriad ar Lunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Cerrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl (cam dau) – Cynigion ar gyfer gosod yr ail gyfres o gerrig milltir cenedlaethol i Gymru Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio barn a phrofiadau pobl ledled Cymru wrth i ni wneud y gwaith hwn ac rydym yn eich gwahodd i gyfrannu. Fel rhanddeiliad allweddol o ran gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol, rydym yn awyddus i glywed eich barn am y cynigion. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 12 Medi felly mae gennych ddigon o amser i ymateb a rhannu eich barn ac fe hoffem glywed safbwyntiau cymaint o bobl â phosibl ar y cynigion Byddwn yn cynnal gweminarau gwybodaeth i randdeiliaid glywed am y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad a byddwn yn parhau i ddefnyddio blog Llunio Dyfodol Cymru fel cyfrwng i ymgysylltu ac i barhau â’r sgwrs. Os hoffech gael sgwrs fanylach am y cynigion, anfonwch e-bost i LlunioDyfodolCymru@llyw.cymru Byddem hefyd yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith hwn drwy unrhyw gylchlythyrau neu rwydweithiau sydd gennych. Os oes gennych unrhyw ddigwyddiadau ymgysylltu eich hun ac yr hoffech i ni ddod draw i sôn am y gwaith hwn, rhowch wybod inni. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach a mwy tosturiol, gan fynd i’r afael â’r heriau digynsail sy’n ein hwynebu. Trwy ein Rhaglen Lywodraethu rydym yn canolbwyntio ar y ffyrdd y gallwn wella bywydau pobl yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych ac at gydweithio i lunio dyfodol Cymru. Llawer o ddiolch Tîm Rhaglen Llunio Dyfodol Cymru