Dweud Eich Dweud ar ein Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027Annwyl Cydweithwyr
Annwyl Cydweithwyr,
Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ein hamcanion drafft ar gyfer Y Sir Ddinbych a Garem 2022 i 2027
‘Y Sir Ddinbych a Garem’
Bod 5 mlynedd, mae angen i gynghorau yng Nghymru gael Amcanion Lles sy’n cefnogi cynaliadwyedd hirdymor eu cymunedau, er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Yn ystod Haf 2021, ac eto yn gynharach eleni, gofynnwyd i’n cymunedau pa amcanion roeddent eu heisiau. Roedd yr adborth a gafwyd yn ardderchog ac wedi ei drafod yn helaeth gyda’n uwch arweinwyr a Chynghorwyr, a bellach mae gennym naw amcan drafft:
- Sir Ddinbych sydd â thai o safon uchel sy’n bodloni anghenion pobl. Sicrhau bod digon o dai o safon uchel ar gael, yn ymdrin yn benodol â darparu beth sy’n bodloni anghenion pobl yn Sir Ddinbych.
- Sir Ddinbych lewyrchus. Cefnogi adferiad economaidd ar ôl y pandemig, gan gynnwys adnabod a manteisio ar gyfleoedd i uwchsgilio trigolion a’u galluogi i gael cyflogaeth ac incwm da. Rydym eisiau defnyddio twf economaidd fel sbardun i ostwng anghydraddoldeb.
- Sir Ddinbych sy’n ofalgar, iachach a hapusach. Hyrwyddo a chefnogi diogelwch, gwytnwch a lles pobl o bob oed, mewn partneriaeth â rhwydweithiau cymunedol cryf sy’n galluogi pobl i fyw yn ddiogel, yn hapus, yn annibynnol a chael cefnogaeth dda pan fo angen.
- Sir Ddinbych sy’n dysgu a thyfu. Cefnogi darpariaeth ddysgu a hyfforddiant o safon sy’n galluogi pobl o bob oed i gyflawni eu potensial, yn bersonol ac yn broffesiynol.
- Sir Ddinbych sydd â gwell cysylltiadau. Bydd Sir Ddinbych yn le fydd â chymunedau sy’n ffynnu, yn gydlynus ac yn gysylltiedig, gan gynnwys isadeiledd ffyrdd a chysylltiadau cludiant da, gwell cysylltedd digidol, ac isadeiledd cymdeithasol i gefnogi lles personol a chymunedol.
- Sir Ddinbych sy’n fwy gwyrdd. Dod yn sefydliad di-garbon net erbyn 2030, a gwella a diogelu ein hasedau naturiol. Rhaid i ni hefyd liniaru – a gweithio gyda chymunedau i ddygymod gyda – effeithiau newid hinsawdd, a allai fod yn mewn perthynas â llifogydd, darpariaeth bwyd, etc.
- Sir Ddinbych sy’n decach a mwy cyfartal. Ymdrin â’r anghydraddoldeb a’r amddifadedd a wynebir gan ein cymunedau, gostwng y bwlch lles, a hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant cymunedol.
- Sir Ddinbych â diwylliant bywiog ble mae’r Gymraeg yn ffynnu. Bod yn sir ble mae’r Gymraeg yn iaith fyw, sy’n ffynnu. Bydd y sir hefyd yn gwneud y mwyaf o’i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac asedau naturiol i gefnogi ffyniant economaidd, cydlyniant cymunedol a chreu balchder yn ein cymunedau.
- Cyngor sy’n cael ei redeg yn dda, ac uchel ei berfformiad. Bod yn gyngor sy’n deg, yn dryloyw, yn perfformio’n dda, yn cynrychioli gwerth am arian, ac yn rhoi gwasanaeth cwsmeriaid sy’n gyson dda. Mae’r cyngor eisiau bod yn greadigol, yn ddewr, uchelgeisiol, yn edrych y tu hwnt i’w ffiniau ei hun ac yn gyflogwr gwych, gyda chefnogaeth llywodraethu cryf a sicrwydd.
Cyn i’n hamcanion gael eu mabwysiadu yn ffurfiol gan y Cyngor ym mis Hydref, rydym eisiau eich barn arnynt. Gallwch wneud hyn rhwng 1 Awst a 30 Medi. Gallwch gynnig eich barn trwy:
- Lenwi ein harolwg ar-lein trwy glicio ar y ddolen yma https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/662
- E-bost: strategicplanningteam@denbighshire.gov.uk
- Ffonio: 01824 706291
o Postio at y Tîm Cynllunio Strategol, Cyngor Sir Ddinbych, Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ. Bydd copi papur o’r ffurflen ymgysylltu ar gael o’r mannau canlynol yn Sir Ddinbych: Llyfrgelloedd, Swyddfeydd y Cyngor (Derbynfa), Siopau Un Alwad, Canolfannau Hamdden.
Y dyddiad cau yw 30 Medi 2022. Hoffem ddiolch i chi am eich amser a’ch holl gyfraniadau. Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun terfynol tuag at ddiwedd y flwyddyn.
