Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

Mae Cyngor Tref Rhuddlan yn ymuno â’r genedl i alaru yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Mae marwolaeth y Frenhines Elizabeth yn achlysur eithriadol o drist. Mae ei gwasanaeth ac ymroddiad i’n gwlad am dros 70 mlynedd wedi bod yn eithriadol, ac mae hi wedi cyffwrdd bywydau llawer o bobl ar draws y wlad – a’r byd. Mae cynifer o bobl yn ei charu a bydd y golled ar ei hôl yn enfawr.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn agor llyfr cydymdeimlad yn ystod y cyfnod o alaru swyddogol a gall y cyhoedd ei arwyddo. Bydd hwn ar gael yn Llyfrgell Rhuddlan.
Gallwch hefyd ysgrifennu neges yn y llyfr cydymdeimlad ar-lein
