Rhybudd i Breswylwyr – Gwydr wedi Torri ar Balmentydd
Mae preswylydd wedi tynnu sylw’r cyngor at y ffaith bod llawer o wydr wedi torri ar y llwybr yn y pant ar waelod Clôs yr Ucheldir, ger afon Ffyddion. Mae’r gwydr yn beryglus i blant, cŵn, seiclwyr a defnyddwyr eraill y llwybr.
Gwelwyd rhagor o wydr wedi torri ar y palmant ger y cyrb isel wrth groesi’r ffordd osgoi ar ochr Rhuddlan.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael gwybod am hyn, ac os bydd preswylwyr yn gweld unrhyw achosion eraill o wydr ar y palmentydd dylent ffonio Cyngor Sir Ddinbych ar 01824 706000.

