Cyngor Sir Ddinbych yn Cyhoeddi Prosiect Gwirfoddoli Newydd
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cyhoeddi prosiect newydd y mis hwn, gyda’r gobaith o wella iechyd meddwl a lles unigolion sy’n byw yn yr ardal.
Mae’r tîm Ar Ymyl Gofal yn edrych am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn eu prosiect newydd.
Gallai gwirfoddoli olygu cyfarfod ag unigolion wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu trwy fynd i grwpiau cymdeithasol gyda’ch gilydd. Gall y cyfleoedd fod yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd angen profiad gwirfoddoli o fewn iechyd meddwl neu ar gyfer y rhai sydd â rhywfaint o amser rhydd ac eisiau cefnogi eraill yn eu cymuned.
Dywedodd Cindy Elliott, Arweinydd Tîm: “Mae nifer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o alluoedd, ond rydym yn gobeithio gwella iechyd meddwl a lles eraill trwy ostwng unigedd a gwella cymdeithasu”.
Os byddwch yn penderfynu gwirfoddoli, bydd y tîm yn ceisio eich paru â rhywun sy’n rhannu diddordebau tebyg. Gallwch wirfoddoli ar ddiwrnodau ac amseroedd sy’n gyfleus i chi ac yn cyd-fynd a’ch ymrwymiadau presennol a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i’ch helpu i deimlo’n hyderus yn eich rôl wirfoddoli newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae hwn yn wasanaeth gwych os ydych yn edrych am brofiad gwirfoddoli gwerthfawr. Beth am gychwyn y flwyddyn newydd hon mewn ffordd ystyrlon trwy helpu rhywun i wella eu lles a’u hiechyd meddwl?”
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://www.sirddinbych.gov.uk/ar-ymyl-gofal
