Mae’n “Wythnos Gwirfoddolwyr” yr wythnos hon. Y thema eleni yw “Dathlu ac Ysbrydoli” a’r nod yw annog mwy o bobl i wirfoddoli ym mha bynnag ffordd sydd orau iddynt. Mae’n amser dweud “diolch” i’n gwirfoddolwyr hefyd a chanmol y gwaith gwerthfawr maent yn ei wneud yn eu cymunedau.
Fel Maer Rhuddlan, rwyf eisiau diolch i’r holl wirfoddolwyr gwych sy’n gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol yn ein tref. Mae gwirfoddolwyr yn weithgar mewn llawer o ffyrdd. Gallent fod yn rheoli cyfleusterau cymunedol; yn trefnu grwpiau ieuenctid neu’n gysylltiedig ag amgylchedd neu hanes y dref; bydd rhai yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a bydd eraill yn helpu pobl sydd â diddordebau artistig a cherddorol. Bydd rhai gwirfoddolwyr yn weithgar yn rheolaidd, er enghraifft, yn ystod y gweithgareddau a gynhelir yn y Ganolfan Gymunedol neu bydd eraill yn gwirfoddoli o bryd i’w gilydd, gan neilltuo awr neu ddwy i helpu i godi sbwriel.
Mae cyfraniad gwirfoddolwyr yn aml yn anweledig ac nid yw’n cael ei gydnabod gan lawer o bobl ond i’r rheini sy’n elwa ar gyfraniad gwirfoddolwyr gall y manteision fod yn enfawr. Gall fod yn gyfle i fwynhau pryd o fwyd cymdeithasol a sgwrsio ag eraill, gall olygu cyfle i gymdeithasu â phobl ifanc eraill â diddordebau tebyg – mae cynifer o ffyrdd y gall gwirfoddolwyr wneud gwahaniaeth yn ein cymuned.
Byddaf yn gweithio gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych i drefnu Ffair Wirfoddolwyr yn Rhuddlan yn hwyrach yn y flwyddyn. Bydd hyn nid yn unig yn gyfle i’n grwpiau gwirfoddol lleol ddangos beth maent yn ei wneud yn Rhuddlan, bydd hefyd yn gyfle i ddangos i bobl beth gallent hwythau ei wneud a’r buddion personol a ddaw yn sgil gwirfoddoli.
Unwaith yn rhagor – diolch yn fawr iawn i’n holl wirfoddolwyr.
Y Cynghorydd Mike Kermode – Maer Rhuddlan

