Cyngor y Dref yn derbyn newyddion calonogol am Wasanaethau Meddygon Teulu
Mae Cyngor Tref Rhuddlan wedi derbyn newyddion calonogol am wasanaethau Meddygon Teulu yn y dref gan Uwch Reolwr Meddygfa Healthy Prestatyn Iach (HPI) a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
Roedd Cynghorwyr wedi clywed pryderon gan breswylwyr sy’n gleifion gyda meddygfa HPI yn ymwneud â nifer o faterion, yn benodol sicrhau bod nifer digonol o feddygon teulu yn cael eu cyflogi, y trefniadau ar gyfer gwneud apwyntiadau a gwasanaethau i bobl â diabetes. Cafodd y pryderon hyn eu rhannu â chynrychiolwyr HPI a BIPBC a gwnaethant gytuno i ddod i gyfarfod Cyngor y Dref i ymateb iddynt. Roedd Gareth Davies, Aelod Senedd Cymru, a Maer Prestatyn ac Allmelyd hefyd yn bresennol yn y cyfarfod.
Yn ystod y cyfarfod clywyd bod nifer o gamau cadarnahol yn cael eu cymryd i roi sylw i’r pryderon a godwyd. O ran nifer y meddygon teulu, mae’n cael ei gydnabod bod prinder yn genedlaethol a gall recriwtio fod yn anodd yng Ngogledd Cymru. Mae nifer o fesurau wedi’u cymryd i geisio mynd i’r afael â hyn, gan gynnwys creu cysylltiadau â meddygfeydd lleol eraill a chyflwyno rhaglen i symud meddygon o’r ysbytai i feyddygfeydd teulu i gydbwyso gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd. Bydd hyfforddiant ychwanegol i feddygon teulu yn cael ei ddarparu yng Ngogledd Cymru, er bod hyn yn ateb mwy hirdymor i’r broblem. Cyfeiriwyd at y ffaith nad oes angen i bobl weld meddyg teulu bob amser oherwydd gall amryw o wasanaethau gael eu darparu gan Ymarferwyr Nyrsio ac arbenigwyr iechyd eraill sy’n rhan o’r tîm. Nodwyd hefyd bod problemau yn dal i fodoli ers pandemig Covid o ran cynnydd yn y galw a thagfa yn yr archwiliadau rheolaidd ar gyfer pobl â chyflyrau cronig.
Trafodwyd y system apwyntiadau ac esboniwyd y gall pobl ddefnyddio sawl opsiwn gwahanol. Cydnabuwyd bod cael apwyntiad dros y ffôn yn gallu bod yn anodd ar brydiau ond y gobaith oedd y byddai’r sefyllfa yn gwella i bobl sy’n cael anhawster defnyddio’r we wrth i mwy o bobl sy’n gallu defnyddio’r systemau ar y we wneud hynny yn y dyfodol. Gall y feddygfa gynnig gwasanaeth galw’n ôl hefyd. Mae’r holl apwyntiadau yn cael eu brysbennu i sicrhau eu bod yn cael eu blaenoriaethu’n gywir.
O ran gwasanaethau i bobl â diabetes, esboniwyd bod y rhain yn cael eu darparu ym Meddygfa Seabank er mwyn cynnig dewis llawn o driniaethau a chymorth mewn un lleoliad, yn hytrach nag ar safleoedd gwahanol.
Dywedodd Maer Rhuddlan, y Cynghorydd Mike Kermode “Cawsom drafodaeth agored a gonest iawn gyda’r uwch swyddogion sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau meddygon teulu yn Rhuddlan. Roeddwn yn falch o glywed eu bod yn ymwybodol o bryderon eu cleifion a’u bod yn cymryd camau cadarnhaol i roi sylw iddynt. Rydw i’n cydnabod bod hyn yn digwydd ar adeg pan mae pryderon am wasanaethau meddygon teulu ar draws Cymru, ac rwyf yn gobeithio y bydd y gwaith sy’n cael ei wneud gan Healthy Prestatyn Iach yn cynnal ac yn gwella gwasanaethau yn ein tref. Byddwn yn sicr yn cael mwy o drafodaethau gyda nhw yn y dyfodol os bydd pryderon yn parhau.”

