Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cynnig offer chwaraeon am ddim i blant yn ystod y gwyliau’r haf
Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cynnig offer chwaraeon am ddim i bobl ifanc eu benthyg yn ystod gwyliau’r haf, i sicrhau y gellir mwynhau chwaraeon a gemau awyr agored yn ystod y gwyliau’r haf.
Mae yr 8 llyfrgell yn cynnig hyn, gydag offer wedi’i ddarparu gan Hamdden Sir Ddinbych.
Mae’r offer yn cynnwys rhaffau sgipio, ffyn hoci, batiau criced, racedi tennis, cylchau hwla a pheli, a gellir eu benthyg yr un pryd â llyfrau.
Her Darllen yr Haf eleni yw ‘Ar eich Marciau, Darllenwch!’ ac mae’n her gyda thema chwaraeon a gemau. Ar y cyd â hyn, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych eisiau dathlu chwarae a chymryd rhan, ac annog plant i ymgysylltu mewn gemau a chwaraeon mewn unrhyw ffordd sydd orau iddynt.
Gall blant a phobl ifanc gael mynediad at yr offer drwy ymweld â’u llyfrgell leol.
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’n wych bod ein llyfrgelloedd yn gallu cynnig cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau chwaraeon a gemau awyr agored drwy gydol y gwyliau haf.
Mae’n bwysig bod plant yn parhau gyda’u gweithgaredd corfforol yn ystod y gwyliau, gan ei fod yn helpu lefelau ffitrwydd a datblygiad yr ymennydd.”
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, Jamie Groves:
“Rydym yn falch iawn o allu helpu lansio rhaglen benthyg offer am ddim yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych. Mae ein tîm Cymunedau Bywiog wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llyfrgelloedd Sir Ddinbych i ddod â’r rhaglen i fodolaeth, ac mae gweld ei lwyddiant cynnar yn wych, gyda bron pob offer wedi cael ei fenthyg yn barod!
Fel rydym yn nesáu at wyliau’r haf, rwy’n falch ein bod yn gallu ymestyn y gwasanaeth am ddim i holl deuluoedd Sir Ddinbych, yn arbennig yn ystod yr amseroedd economaidd heriol.”