Cynllun parcio ‘Am Ddim ar ôl Tri’ Cyngor Sir Ddinbych
Bydd Cyngor Sir Ddinbych unwaith eto yn cynnal y cynllun parcio ‘Am Ddim ar ôl Tri’ yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Rhwng 20 Tachwedd a 31 Rhagfyr, bydd meysydd parcio canol trefi sy’n cael eu rhedeg gan Gyngor Sir Ddinbych yn rhad ac am ddim ar draws y sir bob dydd o 3pm ymlaen i annog mwy o bobl i ddefnyddio eu stryd fawr leol ar gyfer siopa yn y cyfnod cyn y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Bydd y fenter Am Ddim ar ôl Tri ar gael yn y meysydd parcio canlynol:
- Corwen – Green Lane
- Dinbych – Lôn Ffynnon Barcer, Ward y Ffatri, Lôn Crown, Lôn Swyddfa’r Post a Stryd Y Dyffryn.
- Llangollen – Heol Y Farchnad, Stryd y Dwyrain, Stryd y Neuadd a Heol y Felin.
- Prestatyn – Rhan Isaf y Stryd Fawr, Kings Avenue a’r Orsaf Reilffordd.
- Rhuddlan – Stryd y Senedd.
- Y Rhyl – Canolog (dan ddaear), Ffordd Morley, y Tŵr Awyr, Gorllewin Stryd Cinmel, Neuadd y Dref a’r Orsaf Reilffordd; Y Llyfrgell (gofodau parcio i bobl anabl yn unig),
- Rhuthun – Stryd Y Farchnad, Ffordd y Parc, Crispin Yard, Troed Y Rhiw, Stryd y Rhos, Sgwâr Sant Pedr a Dog Lane.
- Llanelwy – Y Lawnt Bowlio.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae parcio yn rhad ac am ddim ar ôl tri wedi bod yn boblogaidd yn y blynyddoedd blaenorol oherwydd ei fod yn gynllun gwych sy’n galluogi trigolion i gefnogi eu cymunedau lleol.
“Rydyn ni’n gobeithio bydd pawb yn siopa ar eu stryd fawr er mwyn cefnogi ein busnesau, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yn manteisio’n llawn ar y cynllun drwy ddefnyddio meysydd parcio canol trefi’r sir yn rhad ac am ddim.”

