Cynnau Goleuadau Nadolig Rhuddlan
Ar brynhawn gwlyb ac oer daeth preswylwyr a chynghorwyr Rhuddlan ynghyd ar y Ffordd Fawr ar gyfer y seremoni flynyddol i gynnau Goleuadau Nadolig Rhuddlan ger y Goeden Nadolig. Cafodd pawb a oedd wedi mentro allan yn y tywydd garw gyfle i fwynhau canu gwych gan barti canu o Ysgol y Castell a lwyddodd i gyfleu Ysbryd y Nadolig. Cafodd y goleuadau Nadolig eu cynnau gan Toby Bywaters ac Amelie Ashton, prif fachgen a phrif ferch Ysgol y Castell.
Dywedodd Maer Rhuddlan, Mike Kermode “Mae’r goleuadau stryd a’r goleuadau ar y goeden Nadolig wedi llonni Ffordd Fawr Rhuddlan a chreu naws hyfryd yr ŵyl ar nosweithiau tywyll y gaeaf. Roedd yn braf gweld bod cynifer o bobl wedi mentro allan yn yr oerfel a’r glaw i weld y goleuadau yn cael eu cynnau gan brif ferch a phrif fachgen Ysgol y Castell – diolch yn fawr Toby ac Amelie. Diolch hefyd i ddisgyblion eraill yr ysgol am gyflwyno gwledd o ganeuon traddodiadol y Nadolig i ni. Gwnaeth y Parchedig Peter Mayo-Smith ein hatgoffa mai canolbwynt y Nadolig yw dathlu genedigaeth baban Iesu a chynhelir nifer o wasanaethau yn Eglwys y Santes Fair a’r gwahanol gapeli yn Rhuddlan lle gall pobl wneud hyn drwy ganu carolau, ac ati. Mae croeso hefyd i bawb ddod draw i’r Ganolfan Gymuned, ddydd Sadwrn, 16 Rhagfyr, am 5pm i fwynhau gwasanaeth carolau wedi’i drefnu gan Gyngor y Dref. Bydd mins peis a gwin poeth ar gael, a bydd Siôn Corn yn galw heibio hefyd. Er ei bod hi’n gynnar ym mis Rhagfyr, hoffwn ddymuno Nadolig Llawn cynnar i bawb.
Yn y llun isod mae’r Maer Mike Kermode gydag Amelie Ashton a Toby Bywaters.

Yn y llun isod mae’r Maer Mike Kermode a’i gymar Sue Kermode gydag Amelie Ashton a Toby Bywaters.


