CADWCH YN WYBODUS

Clwb Ieuenctid Rhuddlan

Community Events

Rhannwch y Post:
Clwb Ieuenctid Rhuddlan Mae Clwb Ieuenctid Rhuddlan yn cyfarfod rhwng 6pm ac 8pm yn Hŵb Rhuddlan bob nos Lun yn ystod tymor yr ysgol. Mae’r Clwb Ieuenctid wedi’i anelu’n bennaf at bobl ifanc 11, 12 ac 13 oed ac mae Tîm Ieuenctid Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gydag bobl ifanc i’w hannog i barhau eu cwmn̂ed gan roi’r sgiliau iddynt ymdopi â bywydoedd cymhleth cyfnod y glasoed. Yn ddiweddar gosododd Cyngor Tref Rhuddlan bopty yn yr Hŵb a bydd y bobl ifanc yn dysgu sut i goginio a pharatoi prydau poeth. Gellir ei ddefnyddio hefyd i baratoi bwyd i’w fwyta ar y noson. Mae’r criw yn cymryd rhan mewn llawer iawn o weithgareddau eraill, gan gynnwys crefftau, gemau, chwaraeon a llawer mwy. Mae’r clwb ieuenctid yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Tref Rhuddlan a Chyngor Sir Ddinbych. I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Steve Wilson yn clerk@rhuddlantowncouncil.gov.uk. Isod mae llun o rai o aelodau’r clwb ieuenctid yn ymarfer eu sgiliau paratoi bwyd.