Mae’n cynnwys 11 Cynghorydd sy’n cael eu hethol neu gyfethol i swyddi 5 mlynedd gyda’r tymor nesaf o swyddi yn dechrau ym mis Mai 2022. Caiff y Cyngor Tref ei gadeirio gan Faer y Dref, sydd, ynghyd â’r Dirprwy Faer, yn cael ei ethol bob blwyddyn yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Tref sy’n cael ei gynnal ym mis Mai. Mae dyddiaduron y Maer a’r Dirprwy Faer yn brysur iawn yn ymweld â grwpiau a sefydliadau cymunedol a chynrychioli Rhuddlan mewn digwyddiadau.










