Rhannu o Gartref
Mae “Rhannu o Gartref” yn gasgliad ar-lein o luniau sy’n dathlu eich treftadaeth ddiwylliannol chi gartref. Rhannwch eich ffotograffau, eich darluniau a’ch lluniau paent gyda ni – dewch i ni ddangos ein bod ni i gyd yn falch o’n diwylliant ac yn falch o fod yn rhan o Gymru amrywiol, gynhwysol.
Bydd ein cynghorau lleol yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn rhannu’r casgliad hwn ar Facebook a Twitter ar 21 Mai, i ddathlu Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd.
Anfonwch eich lluniau cyn 19 Mai at
Dîm Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd-ddwyrain Cymru ar onewrexham@wrexham.gov.uk.
Hwyl ar y rhannu!
“Pa fath o ffotograffau/lluniau y dylwn i eu rhannu?”
Dangoswch i ni sut mae eich cartref yn eich cysylltu chi â’ch treftadaeth ddiwylliannol. Meddyliwch ble y cawsoch eich geni a’ch magu. Meddyliwch ble cafodd eich rhieni a’ch teidiau a’ch neiniau eu geni a’u magu. Gallai hyn eich cysylltu chi ag un lle, neu sawl lle.
Chwiliwch o amgylch eich cartref…

Yn eich cegin

Yn eich gardd

Ar eich waliau

Ar eich silffoedd

Eich llyfrau

Eich cerddoriaeth

Beth rydych yn ei wisgo

beth rydych yn ei gredu
Ychwanegwch bennawd i ddisgrifio pob llun. Fel hyn:
“Fe ddysgodd fy nain fi i wneud caws pob pan oeddwn i’n 11 #Cymro”
“Cafodd fy ngŵr ei fagu yn Warsaw ac mae’r hen fap yma o Wlad Pwyl wedi bod ar y wal am flynyddoedd #Pwyliad”
Nid oes angen enw na chyfeiriad. Ni fydd unrhyw fanylion personol yn cael eu rhannu. Os oes person yn y llun,
gwnewch yn siŵr eu bod yn rhoi caniatâd i’w rannu ar-lein.
Anfonwch ffotograffau, darluniau neu luniau paent… cymaint â hoffech chi! Gall plant ac oedolion o bob oed gymryd rhan. Cofiwch, nid cystadleuaeth yw hon, ond cyfle i fod yn greadigol, eich mynegi eich hun a mwynhau J


