CADWCH YN WYBODUS

Cystadleuaeth Dylunio Poster Ar Gyfer Pobl Ifanc

Community Events

Rhannwch y Post:
Rwyf yn ysgrifennu atoch dros Pwyllgor Rheoli Gwarchodaeth Natur Rhuddlan. Mae’r warchodfa yn agored yn ddyddiol am ddim – rydym yn croesawu ymwelwyr hen, canol oed ac ifanc. Maent yn mwynhau yr awyr agored, amser i edrych ar gweision y neidr, ieir bach yr haf a bywyd y llyn.

Canllawiau Dychwelyd i’r Gwaith i Fusnesau

Rwyf yn ysgrifennu atoch dros Pwyllgor Rheoli Gwarchodaeth Natur Rhuddlan.

Mae’r warchodfa yn agored yn ddyddiol am ddim – rydym yn croesawu ymwelwyr hen, canol oed ac ifanc. Maent yn mwynhau yr awyr agored, amser i edrych ar gweision y neidr, ieir bach yr haf a bywyd y llyn.

Rydym yn poeni ynghylch y chwyiaid a’r elyrch ar y llyn mwyaf – maent mewn perygl oherwydd fod pobl yn eu bwydo gyda bara ac yn y blaen, mi fedrant dagu a marw. Mae’n ddealladwy bod taflu bara i adar yn hen draddodiad – ond mae gwyddonwyr yn ein hysbysu fod bwydo yn amharu ar iechyd adar.

Felly rydym wedi trefnu cystadleuaeth i blant oed cynradd. Cynllunio poster – maint A4 – i ysgogi pobl i beidio bwydo yr adar. Byddwn yn dewis 3 i 4 poster i’w harddangos yn yr warchodfa yn ystod Gwyliau’r Haf ( byddwn yn lameinyddio y posteri). Anfoner yr ymdrechion i’r llyfrgell yn RHUDDLAN – mae yn dwll post yno os yw’r llyfrgell ar gau. Cofier enwi y poster – enw’r plentyn a chyfeiriad yr ysgol.

Dewis arall fyddai anfon yr ymgeision i gartref Maer Rhuddlan, Arwel Roberts, Fachwen, Ffordd Rhyl, Rhuddlan LL18 2TP.

Bydd y 3 a 4 poster yn derbyn gwobrau – llyfrau natur lliwgar – yn addas i flynyddoedd 3,4 a 5 ac fe’i cyflwynir yn nhymor yr Hydref.

Rwyf yn ymddiheurio am gyflwyno mwy o waith i chi ar ddiwedd tymor prysur. Gobeithio y medrwch gynnwys y plant yn y gystadleuaeth.

Y Briff Am Gynllunio Poster

AMDDIFFYN TEULUOEDD YR ELYRCH A’R CHWYIAID. Peidiwch eu bwydo. Mae pob dim maint eu angen yn neu o gwmpas y llyn. Mi fedr bara a bisgedi eu lladd.

Pob dymuniad da,

Anita Fagan- Cadeirydd Pwyllgor Ymghyngori Rheolaeth Rhuddlan.