Mapiau Rhwydwaith Teithio Sir Ddinbych
Gwella teithio llesol yn Cyngor Sir Ddinbych. Helpwch ni i fapio’r lleoedd y mae pobl am weld gwelliannau i gerdded a beicio.
Rhanddeiliad annwyl,
Mae Cyngor Sir Dinbych yn gweithio gyda Sustrans Cymru fel rhan o ymgynghoriad Rhwydwaith Mapiau Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Mae’r Rhwydwaith Mapiau Teithio Llesol yn gynllun o lwybrau a fydd yn cael ei ddefnyddio gan Gyngor Sir Dinbych i benderfynu pa leoedd fydd yn cael gwelliannau i’r ddarpariaeth cerdded a beicio o fewn y sir.
Bydd yn helpu i wneud siwrneiau ar droed ac ar feic yn haws ac yn ddiogelach i bawb ar draws Sir Dinbych, yn enwedig pobl nad ydynt yn cerdded neu feicio’n aml ar hyn o bryd, a phobl sy’n defnyddio cymorth symudedd.
Teithio llesol sy’n gweithio i bawb
Er mwyn cynllunio rhwydwaith sy’n gweithio i bawb, hoffem gael barn cymaint o bobl â phosibl, yn enwedig pobl nad ydynt yn cerdded neu feicio ar hyn o bryd.
Bydd hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr fod y llwybrau a gaiff eu hadeiladu ar gyfer cerdded a beicio yn gweithio i’r gymuned gyfan.
Bydd eich adborth yn cael ei ystyried wrth helpu i greu Map Rhwydwaith Teithio Llesol Sir Dinbych o lwybrau cerdded a beicio.
Dywedwch eich barn wrthym
Gallwch rannu eich meddyliau ar isadeiledd teithio llesol yn eich ardal leol gan ddefnyddio ein hadnodd mapio ar-lein syml. Cliciwch ar y map i adael eich sylwadau:
Dyma ganllaw 30 eiliad ar sut i ddefnyddio’r adnodd mapio.
Beth nesaf?
Byddwn yn casglu eich holl sylwadau o’r adnodd mapio ar-lein ac yn rhoi ystyriaeth iddynt wrth helpu i greu rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio diogel ledled Sir Dinbych.
Unwaith bydd hyn wedi digwydd, byddwch wedyn yn cael cyfle i wneud sylwadau ar y rhwydwaith ei hun, rhag ofn y bydd ambell i elfen na wnaethom lwyddo i’w cynnwys.
Bydd y rhwydwaith a gymeradwyir yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ymhle caiff llwybrau cerdded a beicio eu hadeiladu yn Sir Dynbych yn y dyfodol, felly mae’n bwysig inni wneud hyn yn gywir nawr.
Rhannu’r neges
Diolch ichi am ddweud wrthym ni ble’r hoffech chi weld gwelliannau ar gyfer cerdded a beicio yn Sir Dinbych.
Da chi, rhannwch yr wybodaeth hon gyda’ch ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chymunedau.
I’r rhai ohonoch na all ddefnyddio’n deunydd ymgysylltu ar-lein, gellir darparu copïau o’r map rhwydwaith a’r arolwg drwy’r post, am ddim. Mae’r manylion cysylltu isod.
Cofion cynnes
Sustrans Cymru
Ffôn: 029 2065 0602
Ebost: ATNM-Denbighshire@sustrans.org.uk

