Diweddariad Brechu COVID-19 23.03.21
Yn ystod y pythefnos diwethaf, gyda chymorth ein partneriaid Meddyg Teulu, rydym wedi rhoi oddeutu 100,000 o frechlynnau. Yr wythnos hon, gyda chyflenwad is, byddwn yn pasio’r garreg filltir o ddarparu’r 300,000 dos cyntaf a chyfanswm o 400,000 o frechlynnau.
Oherwydd oedi sylweddol i gyflenwad brechlyn COVID-19 y Deyrnas Unedig, o ddechrau mis Ebrill ymlaen, byddwn yn cael llai o frechlynnau na’r hyn yr oeddem wedi’i fwriadu ei gael.
O ganlyniad, efallai bydd gwahoddiadau am apwyntiadau ar gyfer y dos cyntaf i bobl yng Ngrŵp Blaenoriaeth 6-9 yn cyrraedd yn hwyrach na’r hyn yr oeddem wedi’i nodi yn ein diweddariad ar 16 Mawrth. Ni fydd apwyntiadau ar gyfer yr ail ddos yn cael eu heffeithio arnynt.
Rydym yn parhau i ofyn i bobl fod yn amyneddgar, gan ein bod yn gweithio mor gyflym â phosibl gyda’r cyflenwad sydd gennym. Petai gennym gyflenwad uwch, byddem yn gallu gwneud mwy.
Os ydych yng Ngrŵp Blaenoriaeth 6-9 a heb gael eich galw eto, peidiwch â chysylltu â’ch Meddyg Teulu neu ein Canolfan Trefnu Brechlynnau COVID-19 – byddwn yn cysylltu â chi pan fydd eich tro yn dod. Ni fydd angen i chi aros yn llawer hirach yn awr.
Er y rhwystr hwn, sydd y tu hwn i’n rheolaeth, rydym yn parhau ar y trywydd iawn i fodloni targed Llywodraeth Cymru i gynnig y dos cyntaf o’r brechlyn i Grwpiau Blaenoriaeth 1-9 erbyn 19 Ebrill, a gweddill y boblogaeth erbyn diwedd mis Gorffennaf, yn amodol ar y ffaith na fydd unrhyw darfu pellach ar ein cyflenwad o’r brechlyn.
