CADWCH YN WYBODUS

Lansio Ymgynghoriad Awyr Dywyll

Community Events

Rhannwch y Post:
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei lansio ar ‘Gynllunio ar gyfer Awyr Dywyll: Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy” Mae Cyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ceisio barn ar nodyn Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau yn yr AHNE.

Lansio Ymgynghoriad Awyr Dywyll

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei lansio ar ‘Gynllunio ar gyfer Awyr Dywyll: Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy” Mae Cyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ceisio barn ar nodyn Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer goleuadau yn yr AHNE. Bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol yn darparu cyngor ac arweiniad ar gyfer datblygwyr ac eraill ar ddyluniad goleuadau da yn yr AHNE. Mae’r AHNE wedi’i ddynodi fel tirlun o bwysigrwydd cenedlaethol a’r prif bwrpas yw cadw a gwella ei harddwch naturiol. Un o nodweddion arbennig cydnabyddedig yr AHNE yw ei natur heddychlon, sy’n cynnwys y cyfle i brofi awyr dywyll. Mae gan yr AHNE rai o’r awyr mwyaf tywyll yng Nghymru ac mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft yn ceisio cadw a gwella’r nodwedd arbennig hwn drwy ddarparu canllawiau ar gyfer datblygwyr ac eraill ar ddyluniadau golau sy’n gyfeillgar i awyr dywyll. Ar ôl cael ei gymeradwyo gan bob Awdurdod Cynllunio Lleol, bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol yn ystyriaeth gynllunio materol wrth benderfynu ar geisiadau ac apeliadau cynllunio. Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Cadeirydd Cyd-bwyllgor yr AHNE: “Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn un o dirluniau mwyaf gwerthfawr Cymru. Mae’r ardal yn mwynhau rhai o’r awyr mwyaf tywyll yng Nghymru gan ddarparu cyfleoedd i brofi rhyfeddodau yr awyr dywyll. “Bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol yn helpu i gadw a gwella’r nodwedd arbennig hwn trwy godi ymwybyddiaeth o’r mater ac annog dyluniadau golau sy’n gyfeillgar i awyr dywyll.  Hoffwn glywed eich barn a byddaf yn annog gymaint o bobl â phosib i gymryd rhan yn y broses ymgynghori ac i gael dweud eu barn ar y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft cyn y dyddiad cau ar 9 Awst.” Mae’r tri Awdurdod Cynllunio Lleol a’r AHNE yn awyddus i glywed gan ystod eang o sefydliadau statudol ac anstatudol, cynghorau tref a chymuned, grwpiau gwirfoddol a’r cyhoedd, yn ogystal ag asiantwyr ac ymgynghorwyr cynllunio lleol.   Dylid anfon sylwadau ymlaen i Gyngor Sir Ddinbych sydd yn cydlynu’r ymgynghoriad ar ran y tri Awdurdod Cynllunio Lleol a’r AHNE.   Dylid anfon sylwadau ymlaen erbyn 5.00pm ar 9 Awst 2021 yn defnyddio un o’r dulliau canlynol:
  • trwy e-bost: clwydianrangeaonb@denbighshire.gov.uk
  • trwy Borth Ymgynghori Sir Ddinbych, neu yn ysgrifenedig ar Huw Rees, Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth, Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad, Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ
  Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft neu’r ymgynghoriad at y cysylltiadau canlynol ym mhob Awdurdod Cynllunio Lleol: Gellir gweld y ddogfen ar wefannau Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam neu AHNE, ac mae copïau caled ar gael ar gyfer eu harchwilio yn llyfrgelloedd cyhoeddus Sir Ddinbych.