Datganiad i’r Wasg – Y diweddaraf am Gae’r Llyngesydd
Yn 2021, fe brynodd Cyngor Tref Rhuddlan adeilad sydd gyfagos i Gae’r Llyngesydd, sef Meithrinfa Munchkins gynt, ger y man chwarae amlddefnydd. Cafwyd caniatâd cynllunio i adnewyddu’r adeilad a’i dro’n Adeilad Cymunedol. Pan fydd y gwaith adnewyddu wedi’i gwblhau, fe fydd yno:
- 2 toiled cyhoeddus newydd (un i safon anabl) a fydd ar agor o ben bore tan fachlud haul
- 3 ystafell amlddefnydd y gellir eu defnyddio ar gyfer amrywiol weithgareddau ac y gellir eu hagor allan yn un ystafell
- Ardal gyda chegin fach lle gellir paratoi lluniaeth ysgafn
- Toiled allanol arall
- Stordy allanol
Mae gan y cyngor gynlluniau i ailwynebu’r maes parcio drws nesaf at y man chwarae amlddefnydd, yr ardal y tu allan i’r Adeilad Cymunedol newydd a’r ffordd fynediad. Mae wedi gwneud cais am grant “Symiau Gohiriedig” gan Gyngor Sir Ddinbych i gynnal y gwaith allanol yma. Os ydy’r cais hwn yn llwyddiannus, fe fydd yn golygu:
- Ehangu’r maes parcio a rhoi trefn ar barcio mewn llinellau, gan gynnwys mannau parcio penodol i’r anabl
- Mynediad diogel o’r man chwarae amlddefnydd at yr Adeilad Cymunedol
- Mynediad diogel o’r Clwb Bowlio a’r rhandiroedd at yr Adeilad Cymunedol newydd
- Mynediad diogel o Gae’r Llyngesydd at yr Adeilad Cymunedol
Os ydy popeth yn mynd yn ôl y bwriad, rhagwelir y bydd y prosiect wedi’i gwblhau erbyn canol y flwyddyn hon. Cadwch olwg allan am y newyddion diweddaraf.
