Cyflwyno Gwobrau Gwasanaeth Hir
Cyflwynwyd gwobrau gwasanaeth ffyddlon i ddau gyn-Gynghorydd Tref Rhuddlan yn ddiweddar gan Faer y Dref Mike Elgin.
Cyflwynwyd gwobr i Andy Smith i gydnabod ei wasanaeth ymroddedig i Ruddlan. Mae Andy wedi gwasanaethu ar y cyngor am dros 10 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedi bod yn Faer ddwywaith ac wedi cadeirio sawl pwyllgor.
Cyflwynwyd gwobr i Syd Gaskin sydd wedi gwasanaethu am 14 mlynedd ar Gyngor Tref Rhuddlan dros ddau gyfnod. Chwaraeodd Syd ran allweddol i ddarparu diffibriliwyr ar draws Rhuddlan ac roedd i’w weld yn aml yn cynnal archwiliadau i sicrhau eu bod yn barod i’w defnyddio.
Diolchodd Mike Elgin i Syd ac Andy am eu gwasanaeth ymroddedig i’r dref a chyflwynwyd medalau Gwasanaeth Ffyddlon iddynt a blodau i’w gwragedd Sue a Rosie.
Y llun cyntaf o’r chwith i’r dde: Rosie a Syd Gaskin, Marianne a’r Cynghorydd Mike Elgin, Andy a Sue Smith
Yr ail lun o’r chwith i’r dde: Y Cynghorydd Gareth Rowlands, Rosie a Syd Gaskin, Marianne a’r Cynghorydd Mike Elgin, Andy Smith, y Cynghorydd Mike Kermode a’r Cynghorydd Jackie Burnham.

