Fforwm Landlordiaid i gael ei gynnal yn y Rhyl
Cynhelir y digwyddiad yn Nhŷ Russell yn y Rhyl ar 24 Tachwedd a bydd wedi’i anelu at landlordiaid sy’n berchen ar eiddo preswyl a’u rhentu yn Sir Ddinbych.
Yn y fforwm eleni, bydd tîm Atal Digartrefedd Sir Ddinbych yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Prydlesu Rhentu Preifat a bydd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Genedlaethol yno i amlinellu’r newidiadau i’r Ddeddf Rhentu Cartrefi sy’n dod i rym ar 1 Rhagfyr. Bydd Rhentu Doeth Cymru yna hefyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf.
Cynhelir y fforwm rhwng 5pm ac 8pm a bydd yn rhoi llais i landlordiaid lleol a chaniatáu iddynt godi unrhyw faterion a allai beri pryder iddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau:
“Mae hwn yn gyfle gwych i landlordiaid gael rhagor o eglurder am Ddeddf Rhentu Cartrefi sy’n dod i rym yn fuan.”
“Un o’n prif nodau yw sicrhau bod tai o safon ac sy’n saff, diogel, ac wedi’u cynnal a’u cadw’n dda, ar gael i bobl ein Sir.”
“Mae’r digwyddiad hwn hefyd yn caniatáu i landlordiaid leisio eu barn, yn ogystal â rhwydweithio â pherchnogion eiddo eraill.”
