CADWCH YN WYBODUS

Fforwm Landlordiaid i gael ei gynnal yn y Rhyl

Community Events

Rhannwch y Post:
Cynhelir y digwyddiad yn Nhŷ Russell yn y Rhyl ar 24 Tachwedd a bydd wedi’i anelu at landlordiaid sy’n berchen ar eiddo preswyl a’u rhentu yn Sir Ddinbych.

Fforwm Landlordiaid i gael ei gynnal yn y Rhyl

Cynhelir y digwyddiad yn Nhŷ Russell yn y Rhyl ar 24 Tachwedd a bydd wedi’i anelu at landlordiaid sy’n berchen ar eiddo preswyl a’u rhentu yn Sir Ddinbych. Yn y fforwm eleni, bydd tîm Atal Digartrefedd Sir Ddinbych yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Prydlesu Rhentu Preifat a bydd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Genedlaethol yno i amlinellu’r newidiadau i’r Ddeddf Rhentu Cartrefi sy’n dod i rym ar 1 Rhagfyr. Bydd Rhentu Doeth Cymru yna hefyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf. Cynhelir y fforwm rhwng 5pm ac 8pm a bydd yn rhoi llais i landlordiaid lleol a chaniatáu iddynt godi unrhyw faterion a allai beri pryder iddynt. Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau: “Mae hwn yn gyfle gwych i landlordiaid gael rhagor o eglurder am Ddeddf Rhentu Cartrefi sy’n dod i rym yn fuan.” “Un o’n prif nodau yw sicrhau bod tai o safon ac sy’n saff, diogel, ac wedi’u cynnal a’u cadw’n dda, ar gael i bobl ein Sir.” “Mae’r digwyddiad hwn hefyd yn caniatáu i landlordiaid leisio eu barn, yn ogystal â rhwydweithio â pherchnogion eiddo eraill.”