Canlyniadau Cystadleuaeth y Tŷ a’r Busnes Nadolig Gorau 2023
Mae’n bleser mawr gan Gyngor Tref Rhuddlan gyhoeddi mai Mr Ronald Turney a Mrs Joan Turney o 1 Rhodfa Conwy yw enillwyr teilwng y tŷ gorau. Beirniaid y gystadleuaeth oedd ein Maer Mike Elgin, Cllr. Val Simmons a’r Cynghorydd Sir Arwel Roberts a gyfeiriodd at safon uchel y goleuadau a’r addurniadau Nadolig sydd i’w gweld ar gartrefi ar draws Rhuddlan.
Isod gwelir Mr a Mrs Turney gyda’r Maer Mike Elgin
Mae busnesau Rhuddlan wedi creu arddangosfeydd gwych yn ffenestri eu siopau hefyd a’r enillydd teilwng oedd Rejuva, gyda siop goffi Bailey’s yn yr ail safle, a Wish yn drydydd. Mae’r cyngor yn dymuno diolch i’r holl fusnesau sydd wedi helpu i wneud Ffordd Fawr Rhuddlan edrych yn Nadoligaidd iawn eleni ac mae’n eich annog i gefnogi eich Ffordd Fawr y Nadolig hwn.
Mae’r llun isod yn dangos perchennog Rejuva, Jackie Burnham, gyda’r Maer Mike Elgin


