Canlyniadau Cystadleuaeth y Tŷ a’r Busnes Nadolig Gorau 2023
Mae’n bleser mawr gan Gyngor Tref Rhuddlan gyhoeddi mai Mr Ronald Turney a Mrs Joan Turney o 1 Rhodfa Conwy yw enillwyr teilwng y tŷ gorau. Beirniaid y gystadleuaeth oedd ein Maer Mike Elgin, Cllr. Val Simmons a’r Cynghorydd Sir Arwel Roberts a gyfeiriodd at safon uchel y goleuadau a’r addurniadau Nadolig sydd i’w gweld ar gartrefi ar draws Rhuddlan.
Isod gwelir Mr a Mrs Turney gyda’r Maer Mike ElginMae busnesau Rhuddlan wedi creu arddangosfeydd gwych yn ffenestri eu siopau hefyd a’r enillydd teilwng oedd Rejuva, gyda siop goffi Bailey’s yn yr ail safle, a Wish yn drydydd. Mae’r cyngor yn dymuno diolch i’r holl fusnesau sydd wedi helpu i wneud Ffordd Fawr Rhuddlan edrych yn Nadoligaidd iawn eleni ac mae’n eich annog i gefnogi eich Ffordd Fawr y Nadolig hwn.
Mae’r llun isod yn dangos perchennog Rejuva, Jackie Burnham, gyda’r Maer Mike Elgin