Llofnodwyd ac ardystiwyd y cyfrifon ar 19 Mehefin 2023 gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol.
Mae Rheoliad 15(2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon uchod, ar ôl i’r Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod eu hardystio. Yn ôl y Rheoliadau, mae’n ofynnol i wneud hyn erbyn 30 Mehefin 2023.
Nid yw’r Cyngor wedi cymeradwyo’r cyfrifon hyd yma oherwydd na dderbyniwyd Canlyniadau’r Archwiliad Mewnol cyn cyfarfod mis Mehefin y Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023.
Y bwriad yw cymeradwyo’r cyfrifon a archwiliwyd yn fewnol yn ystod Cyfarfod Llawn y Cyngor a gynhelir ar 13 Gorffennaf

