CADWCH YN WYBODUS

Ardystio a chymeradwyo’r cyfrifon blynyddol ar gyfer 2022-23

Community Events

Rhannwch y Post:
Llofnodwyd ac ardystiwyd y cyfrifon ar 19 Mehefin 2023 gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol. Mae Rheoliad 15(2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon uchod, ar ôl i’r Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod eu hardystio. Yn ôl y Rheoliadau, mae’n ofynnol i wneud hyn erbyn 30 Mehefin 2023. Nid yw’r Cyngor wedi cymeradwyo’r cyfrifon hyd yma oherwydd na dderbyniwyd Canlyniadau’r Archwiliad Mewnol cyn cyfarfod mis Mehefin y Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023. Y bwriad yw cymeradwyo’r cyfrifon a archwiliwyd yn fewnol yn ystod Cyfarfod Llawn y Cyngor a gynhelir ar 13 Gorffennaf