Rhuddlan yn cael diffibriliwr newydd o ganlyniad i gais gan Grŵp Sgowtiaid 1af Rhuddlan
Dechreuodd y cyfan gyda chais gan grŵp Sgowtiaid 1af Rhuddlan i Gyngor Tref Rhuddlan am gyfraniad tuag at osod diffibriliwr a fydd yn achub bywydau yn yr Odyn ar Princes Road, Rhuddlan. Roedd y Sgowtiaid yn teimlo bod angen gosod dyfais yn y lleoliad hwn ac roeddynt yn awyddus i helpu i godi arian at y diben hwn. Gan weithio gyda’i gilydd, penderfynodd y cyngor brynu a gosod ei seithfed diffibriliwr yn yr Odyn petai’r Grŵp Sgowtiaid yn cytuno i ariannu’r costau trydan er mwyn cynhesu cwpwrdd y diffibriliwr. Gan weithio gyda Malcolm a Carol Boyton, cytunodd y Sgowtiaid i ariannu’r costau hyn ac i gynnal gwiriadau misol i sicrhau bod y ddyfais bwysig hon yn barod i gael ei defnyddio.
Dywedodd Malcolm Boyton “Roedd y Grŵp Sgowtiaid wedi codi £200 tuag at y diffibriliwr yn barod a bydd yr arian hwn bellach yn cael ei roi i Ward y Galon yn Ysbyty Glan Clwyd”
Dywedodd Maer Tref Rhuddlan, y Cynghorydd Mike Kermode “Mae Cyngor y Dref yn falch iawn o osod y diffibriliwr hwn yng Nghwt y Sgowtiaid. Roedd yn wych bod y Sgowtiaid yn cynnig ei ariannu ar y cyd ond mae’r Cyngor eisoes wedi gosod diffibrilwyr mewn mannau eraill yn y dref ac felly roedd decach i ni ariannu’r ddyfais hon hefyd. Bydd y Grŵp Sgowtiaid nawr yn rhoi’r arian roeddynt wedi’i gasglu ar gyfer y diffibriliwr i Ward y Galon yn yr ysbyty – canlyniad gwych i bawb – da iawn Grŵp Sgowtiaid Rhuddlan.”
Yn y llun mae Arweinwyr y Sgowtiaid, Malcolm a Carol Boyton, Kenny Morris a’r Chwilotwr Amy Davies ynghyd â’r Maer Mike Kermode ac adran Cybiaid Grŵp Sgowtiaid 1af Rhuddlan.

