Agor Hwb Rhuddlan a Dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Daeth plant Ysgol y Castell, Urdd Gobaith Cymru a Chynghorwyr Cyngor Tref Rhuddlan ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a chymryd rhan yn agoriad swyddogol Hwb Rhuddlan.
Mae Hwb Rhuddlan gerllaw Cae’r Llyngesydd ac mae’n cynnwys dau doiled cyhoeddus newydd (un yn addas i bobl anabl) ac ystafell fawr amlddefnydd. Roedd yr adeilad yn arfer cael ei ddefnyddio fel meithrinfa ddydd nes iddo gael ei brynu a’i adnewyddu gan Gyngor Tref Rhuddlan. Mae’r Hwb ar gael i’w logi a dylid cysylltu â’r Clerc i wneud trefniadau ar gyfer defnyddio’r cyfleusterau. Mae’r ddau doiled cyhoeddus ar agor i bawb rhwng 8am a 4pm, ac maent yn gyfleus i’r MUGA, y gampfa awyr agored, yr ardal chwarae a’r rhandiroedd.
Fel rhan o’r dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, roedd adloniant wedi’i drefnu ar gyfer y plant gan Swyn Williams o’r Urdd, gyda chymorth Mr Urdd. Roedd thema Gymreig i’r holl weithgareddau ac roedd y plant yn falch iawn o’r cyfle i gymryd rhan a dangos eu sgiliau iaith Gymraeg.
Daeth y dathliad i ben wrth i gôr yr ysgol ganu rhai caneuon Cymraeg. Dywedodd Maer Rhuddlan Mike Elgin “Mae agor Hwb Rhuddlan yn benllanw dwy flynedd o waith caled gan y Cyngor a’r Clerc ac roedd yn wych bod disgyblion a staff Ysgol y Castell wedi ymuno â ni i ddathlu’r agoriad. Gall holl breswylwyr Rhuddlan a phawb sy’n ymweld â Chae’r Llyngesydd ddefnyddio’r adnodd newydd ardderchog hwn.”





