CADWCH YN WYBODUS

Ailddechrau gweithrediadau amgylcheddol a gorfodi sifil yn raddol yn Sir Ddinbych

Community Events

Rhannwch y Post:

Ailddechrau gweithrediadau amgylcheddol a gorfodi sifil yn raddol yn Sir Ddinbych

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau ailgyflwyno gweithrediadau amgylcheddol a gorfodi sifil ar 1 Mehefin.

Cafodd gweithgarwch gorfodi’r Cyngor, sydd yn cynnwys cyflwyno dirwyon am faw cŵn a gollwng sbwriel, yn ogystal â’r drefn gorfodi parcio ar y stryd, ei ohirio pan gyflwynwyd cyfyngiadau ar symud ar 23 Mawrth.

Bydd gweithrediadau amgylcheddol yn cael eu hailgyflwyno’n raddol o 1 Mehefin ymlaen.

District Enforcement sydd yn ymgymryd â gwaith gorfodi amgylcheddol a ran y Cyngor, a bydd y cwmni yn cynnal asesiad risg llawn o’u staff a byddant yn gweithredu o fewn canllawiau cadw pellter cymdeithasol a gweithdrefnau gweithredu safonol.

I ddechrau, bydd patrolau’n cael eu cynnal yn yr ardaloedd y mae’r Cyngor wedi derbyn cwynion diweddar yn eu cylch.

Bydd gorfodi trefn parcio ar y stryd y Cyngor yn cael ei ailgyflwyno hefyd er mwyn sicrhau fod traffig yn llifo’n ddiogel a bydd asesiadau risg yn cael eu cynnal gyda’r swyddogion a fydd gweithio gan ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd y Cyng. Mark Young, Aelod Arweiniol y Cyngor ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel, Cyngor Sir Ddinbych: “Fe hoffwn roi sicrwydd i breswylwyr fod diogelwch y cyhoedd a staff yn holl bwysig wrth i ni ailgyflwyno’r gwasanaethau yma.

“Bydd y gweithgareddau gorfodaeth yma’n ailddechrau’n raddol a bydd y Cyngor yn ymateb i newidiadau i fesurau cyfyngiadau ar symud er mwyn sicrhau trosglwyddiad graddol i wasanaeth llawn.

“Fe hoffai’r Cyngor ddiolch i breswylwyr am eu hamynedd yn ystod y cyfnod yma.”

 

Matthew Jones
Ffôn: 01824 712604
E-bost: matthew.l.jones@sirddinbych.gov.uk