Bore coffi llwyddianus
Edrych ymlaen am y ‘Dolig. Wel rhaid cofio am bobl sydd yn llai ffodus na ni. Bore Sadwrn y 15fed o Rhagfyr trefnwyd Bore Coffi gan Ffrindiau Dementia Rhuddlan yn y Ganolfan Gymunedol Rhuddlan. Dyma’r trydydd bore coffi sydd wedi ei drefnu gan y grŵp. Roedd cyfraniad cerddorol gan Dave a’i ferch Chloe yn codi ein calonnau. Roedd Cadeirydd y grŵp y cynghorydd Arwel Roberts yn hynod o falch i weld y Maer a’i wraig yn bresennol a rhan fwyaf o gynghorwyr tref Rhuddan hefyd.

