CADWCH YN WYBODUS

CFfG Sir Ddinbych Ffyniannus

Community Events

Rhannwch y Post:
Sir Ddinbych Ffyniannus ar gael drwy Cadwyn Clwyd gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyninat Gyffredin y DU drwy’r flaenoriaeth fuddsoddi ‘cefnogi busnesau lleol’. Mae nod y prosiect yn cyd-fynd â nodau’r Gronfa Ffyninat Gyffredin y DU i hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonnau byw drwy dyfu’r sector preifat, gyda ffocws ar gefnogi mentrau micro a bach yn Sir Ddinbych. Bydd busnesau micro a bach presennol, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol yn gymwys i wneud cais. Bydd y prosiectau yn galluogi mentrau i arloesi; mabwysiadu technolegau ynni-effeithlon a charbon isel; a threialu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd. Bydd ffocws ar ehangu busnes, cefnogi cyflwyno technolegau arloesol a ffyrdd newydd o wneud busnesau. Bydd angen llenwi FFURFLEN CYMHWYSO CYN GWNEUD CAIS ar-lein. Am wybodaeth pellach ewch i wefan Cadwyn Clwyd https://cadwynclwyd.co.uk/funding-areas/prosperous-denbighshire/?lang=cy