Clwb Ieuenctid yn agor yn Hwb Rhuddlan
Roedd dydd Llun, 11 Medi, yn ddiwrnod pwysig iawn i Gyngor Tref Rhuddlan gan fod Clwb Ieuenctid Rhuddlan wedi agor yn adeilad y cyngor, Hwb Rhuddlan, ar Gae’r Llyngesydd yn y dref. Mae Cyngor y Dref ynghyd â dau Gynghorydd Sir Rhuddlan wedi bod yn gweithio gyda Thîm Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych i gyflawni’r amcan pwysig hwn yng nghynllun y dref.
Mae’r Clwb Ieuenctid newydd ar gyfer plant rhwng 11 ac 16 oed ac mae ar agor rhwng 6pm ac 8pm bob nos Lun yn ystod tymor yr ysgol. Mae Tîm Ieuenctid Sir Ddinbych yn brofiadol iawn a byddant yn darparu amrywiaeth eang iawn o weithgareddau dan do ac awyr agored dan oruchwyliaeth yn yr Hwb.
Dywedodd Maer Tref Rhuddlan, y Cynghorydd Mike Kermode “Mae Cyngor y Dref yn awyddus i gefnogi gwaith Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor y Sir yn y dref. Rydym wedi sicrhau bod arian ar gael ar gyfer y gwaith, ac rydym wedi cynnig defnydd o’n hadeilad, Hwb Rhuddlan, ar Gae Chwarae’r Llyngesydd bob nos Lun. Mae’n gyfle i’r gwasanaeth ddefnyddio adeilad yr Hwb, y gwahanol gyfleusterau ar y cae chwarae a’r ardal gemau amlbwrpas. Roeddwn yno ar gyfer y cyfarfod cyntaf nos Lun a chefais gyfle i gyfarfod tîm y Gwasanaeth Ieuenctid; roedd yn braf iawn gweld eu brwdfrydedd i weithio gyda phobl ifanc y dref.”
Dywedodd Claire Cunnah sy’n arwain Tîm Ieuenctid Cyngor Sir Ddinbych “Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn falch iawn bod y bartneriaeth hon yn mynd rhagddi. Mae’r Hwb yn adnodd cymunedol gwych i’r bobl ifanc ac rydym yn edrych ymlaen i gydweithio â Chyngor y Dref.
Mae croeso cynnes i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed. Dewch draw i gyfarfod y tîm, Gaz, Sam ac Alex ac ymuno â’n gweithgareddau cynhwysol.”
Yn y llun isod mae’r Maer Mike Kermode gyda Gaz, Sam ac Alex.



