Gyda tristwch mawr rydym yn hysbysu preswylwyr am farwolaeth y Cynghorydd Gareth Rowlands. Mae marwolaeth Gareth yn sioc fawr i bawb yng Nghyngor Tref Rhuddlan a hoffem estyn ein cydymdeimlad diffuant i’w deulu a’i gyfeillion.
Bu Gareth yn Gynghorydd Tref gweithgar iawn yn Rhuddlan ers cael ei ethol ym mis Gorffennaf 1979 a bu hefyd yn Gynghorydd Sir Ddinbych ac yn aelod o Rotari Llanelwy am nifer o flynyddoedd.
Roedd Gareth yn angerddol dros wneud gwelliannau cadarnhaol yn Rhuddlan. Roedd yn Gynghorydd ymroddedig, a oedd yn barod i dorchi’i lewys, a gellid dibynnu arno i weithredu a rhoi help llaw bob amser. Chwaraeodd ran allweddol i ddatblygu cyfleusterau amgylcheddol a chymunedol ein tref am dros 45 o flynyddoedd a byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr iawn.

