Cyfle i ddweud eich dweud am uchelgeisiau’r Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf
Mae trigolion Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud am yr hyn y mae’r Cyngor Sir yn bwriadu canolbwyntio arno dros y pum mlynedd nesaf.
Mae tai, yr hinsawdd a’r amgylchedd, yr economi, pobl ifanc, cymunedau cysylltiedig, mynd i’r afael ag amddifadedd a pharhau i ddarparu Cyngor sy’n cael ei redeg yn dda ac sy’n uchel ei berfformiad i gyd yn themâu a fydd yn cael eu cynnwys yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2022-2027.
Mae’r Cynllun Corfforaethol yn nodi’r meysydd y bydd y Cyngor yn canolbwyntio arnynt dros y pum mlynedd nesaf yn cynnwys y gwasanaethau craidd hanfodol y mae’n eu darparu ar gyfer preswylwyr, fel addysg a gofal cymdeithasol.
Mae’r Cyngor yn lansio arolwg ar-lein er mwyn cael gwybod beth mae aelodau’r cyhoedd yn ei feddwl.
Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y Cyngor: “Mae hwn yn gyfle i bobl ddweud wrthym beth maen nhw’n ei feddwl am ein cyfeiriad ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
“Bydd safbwyntiau ein preswylwyr yn rhoi gwybodaeth i ni a fydd yn ein helpu ni wrth i ni wneud penderfyniadau ac mae’n gyfle iddynt ddweud wrthym beth y maen nhw’n teimlo y dylem fod yn canolbwyntio arno.
“Rydw i’n annog cynifer â phosibl i gymryd y cyfle hwn i helpu i wella gwasanaethau a’u hardal leol.”
Rhwng mis Mai a mis Gorffennaf eleni cynhaliodd y Cyngor ymarfer ymgysylltu o’r enw Parhau Sgwrs y Sir lle gofynnwyd i bobl ddweud wrthym beth oedden nhw’n ei feddwl am ein rhaglen waith arfaethedig ar gyfer 2022 – 2027.
O’r gweithgaredd ymgysylltu cychwynnol hwn, rydym wedi creu’r themâu drafft ar gyfer ein cynllun corfforaethol newydd.
Caiff yr arolwg ar-lein ei gynnal rhwng 28 Ionawr a 11 Mawrth.
I gymryd rhan ac i ddweud eich dweud ewch i: https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/662
Os na allwch lenwi’r arolwg yn electronig, mae copïau papur ar gael yn holl lyfrgelloedd Sir Ddinbych a gellir eu dychwelyd i’r llyfrgelloedd neu eu postio i’r Tîm Cynllunio a Pherfformiad Strategol Cyngor Sir Ddinbych, Blwch PO 62, Rhuthun LL15 9AZ.
