CADWCH YN WYBODUS

Cynghorydd Tref Rhuddlan yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2024

Community Events

Rhannwch y Post:
Mae Ann Davies, Cynghorydd Tref Rhuddlan, wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwasanaeth i lywodraeth leol, y GIG a’r gymuned yn Rhuddlan, Sir Ddinbych. Dywedodd y Cynghorydd Sir Ann Davies: “Roeddwn wrth fy modd i dderbyn anrhydedd mor bwysig. Roeddwn ar ben fy nigon wrth ddarllen y llythyrau caredig a dderbyniodd fy merch Jane i gefnogi’r cais am yr anrhydedd hon, gan gynnwys sawl llythyr gan breswylwyr Rhuddlan a llythyr twymgalon gan fy wyres Marni, sydd wastad wedi cefnogi fy ngwaith.  Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu preswylwyr Rhuddlan a Sir Ddinbych.   Mae derbyn cydnabyddiaeth am fy ngwaith ym myd Llywodraeth Leol, gwasanaethau Addysg a’r GIG yn anrhydedd mawr gan fod y meysydd hyn yn agos iawn i’m calon.  Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi anfon negeseuon mor hyfryd ataf yn fy llongyfarch ar dderbyn yr anrhydedd hwn.  Byddaf wrth gwrs yn parhau i gefnogi’r gymuned hyd eithaf fy ngallu. Os oes unrhyw un am drafod unrhyw fater, yn fawr neu’n fach, mae croeso i chi gysylltu â mi ar 01745 591247”  Ar ran Cyngor y Dref, llongyfarchodd y Maer Mike Kermode y Cynghorydd Ann Davies ar dderbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig fel cydnabyddiaeth am ei gwaith.  Dywedodd y Cynghorydd Kermode “Mae cynghorwyr yn aml yn gwneud llawer o waith da yn y gymuned heb gydnabyddiaeth neu wobr – mae’n braf gweld Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn rhoi sylw i’r mater hwn drwy ddyfarnu’r BEM i’r Cynghorydd Ann Davies am ei blynyddoedd lawer o wasanaeth cymunedol fel Cynghorydd Tref a Sir – llongyfarchiadau mawr gan Gyngor y Dref”.