Cyngor Tref Rhuddlan yn sicrhau na fydd torri ar oriau Llyfrgell Rhuddlan
Yng nghyfarfod Cyngor Tref Rhuddlan nos Iau diwethaf, pleidleisiodd y Cynghorwyr i dalu am gadw Llyfrgell Rhuddlan ar agor am 23 awr yr wythnos er mwyn atal y toriadau sy’n cael eu cyflwyno gan Gyngor Sir Ddinbych. Roedd Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu torri oriau agor Llyfrgell Rhuddlan o 23 awr yr wythnos i 15 awr, ond mae Cynghorwyr Tref Rhuddlan yn sylweddoli pa mor bwysig yw’r llyfrgell i’r holl ddefnyddwyr ac fe benderfynodd ddarparu arian i gadw’r llyfrgell ar agor. Mae Cyngor y Dref wedi bod yn ariannu’r llyfrgell yn rhannol am sawl blwyddyn yn barod.
Yn ogystal â benthyg llyfrau, mae llawer o bobl a mudiadau yn defnyddio’r llyfrgell i gefnogi preswylwyr Rhuddlan, gan gynnwys y “Siop Un Alwad”, darparu cyfleusterau TG a chynnig lle cynnes i breswylwyr gyfarfod a chymdeithasu.
Dywedodd Maer Rhuddlan, y Cynghorydd Mike Kermode “Rwy’n siŵr y bydd pawb yn falch iawn o glywed bod Cyngor y Dref wedi penderfynu rhoi swm digonol o arian i’r Llyfrgell a fydd yn golygu y gall aros ar agor heb dorri’r oriau. Roedd Cyngor y Dref yn siomedig â phenderfyniad y Cyngor Sir i dorri oriau llyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych. Rydym wedi rhoi cymorth ariannol i’r Llyfrgell am nifer o flynyddoedd gan ein bod yn gweld y buddion sy’n dod i breswylwyr o bob oedran o ran astudiaethau addysgol, darllen ar gyfer hamdden, ac fel canolfan gymdeithasol. Rydym wedi gorfod mwy na dyblu’r cymorth ariannol eleni er mwyn cadw oriau agor presennol y Llyfrgell ond yn ein barn ni, roedd yn rhaid gwneud hyn. Mae Cyngor y Dref wedi cymryd cam mawr wrth ddarparu’r arian ychwanegol hwn i’r Llyfrgell – rydym yn gobeithio y bydd pobl yn ymateb drwy barhau i ddefnyddio’r gwasanaethau yn ystod y flwyddyn i ddod.”
Dywedodd Mathew Baker, Rheolwr Cynorthwyol Llyfrgelloedd a Gwasanaeth Cwsmeriaid Sir Ddinbych “Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyngor Tref Rhuddlan a’r gwerth mae’n ei roi ar ein gwasanaeth i’r gymuned leol. Rydym yn edrych ymlaen i ddatblygu ein partneriaeth waith yn y dyfodol.”

