Cyngor y Dref yn cefnogi Digwyddiadau yn Rhuddlan yn 2023
Mae Cyngor Tref Rhuddlan wedi sefydlu Pwyllgor Digwyddiadau gyda’r nod o helpu’r cyngor i gefnogi mudiadau a grwpiau lleol sy’n dymuno cynnal digwyddiadau yn y Dref yn ystod y flwyddyn.
Mae nifer o ddigwyddiadau i ddathlu Coroni’r Brenin eisoes wedi’u cynllunio, gan gynnwys:
Dydd Llun 8 Mai – Mae Clwb Bowlio Rhuddlan yn cynnal diwrnod hwyl yn y Clwb Bowlio, gan gynnwys gemau i’r plant yn y bore, gemau i oedolion yn y prynhawn ac yna barbeciw mawr i ddilyn. Ar yr un diwrnod, mae clwb pêl-droed Dreigiau Rhuddlan yn bwriadu cynnal diwrnod o weithgareddau hwyliog, gan gynnwys pêl-droed llawn gwynt, castell bownsio, a digwyddiadau hwyliog eraill.
Dydd Sul 7 Mai – Mae Grŵp Cyfeillgarwch Rhuddlan a’r Ganolfan Gymuned yn cynnal cinio mawr yn y ganolfan ynghyd â chystadleuaeth ar gyfer y wisg orau, cystadleuaeth gwneud coron a gweithgareddau hwyliog eraill.
Dydd Sul 7 Mai – Cynhelir gwasanaeth dathlu yn Eglwys y Santes Fair ar y cyd ag Eglwys Bodelwyddan.
Mae Cyngor y Dref yn awyddus i gynnig cymorth ariannol, felly os ydych yn aelod o grŵp/mudiad lleol, cysylltwch â’r Clerc Steve Wilson i gael ffurflen gais. Gallwch anfon neges e-bost clerk@rhuddlantowncouncil.gov.uk neu ffonio 07775 673706.
