CADWCH YN WYBODUS

Cyngor yn atgoffa rhieni a gwarcheidwaid am gynllun cyllid grant

Community Events

Rhannwch y Post:
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn hysbysu rhieni a gwarcheidwaid y gallant wneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol. Mae’r cynllun grant, a elwir yn Grant Hanfodion Ysgol (a elwid gynt Grant Datblygu Disgyblion) ar agor i ymgeiswyr, a gallai pobl fod yn gymwys os ydynt yn cael o leiaf un budd-dal, megis:
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Pensiwn; Credyd Gwarantedig
  • Treth Credyd Plant gydag incwm blynyddol llai na £16,190
  • Cymorth o dan Adran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Credyd Cynhwysol a ni ddylai’ch enillion net blynyddol fod dros £7,400.
Gall rhieni/gwarcheidwaid sy’n cael budd-dal cymwys gael grant o £125 os yw eu plant yn y dosbarth Derbyn neu Flynyddoedd 1 i 11. Os yw’r plentyn ym Mlwyddyn 7, gall rhieni/gwarcheidwaid fod yn gymwys i dderbyn grant o £200 os ydynt yn cael un o’r budd-daliadau cymwys. Gall y grant helpu tuag at gost:
  • Gwisg ysgol
  • Dillad chwaraeon ysgol
  • Chwaraeon y tu allan i’r ysgol
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach e.e. sgowtiaid a geidiau
  • Cyfarpar ar gyfer gweithgareddau i gefnogi’r cwricwlwm e.e. dylunio a thechnoleg
  • Cyfarpar ar gyfer tripiau tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored
  • Gweithgareddau Dug Caeredin
  • Cyfrifiaduron, gliniaduron a dyfeisiau llechen
Ni ellir derbyn y Grant Hanfodion Ysgol os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith. Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar-lein am grant trwy fynd i: www.sirddinbych.gov.uk/grant-hanfodion-ysgol Gall pobl sy’n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, yn ogystal â’r Grant Hanfodion Ysgol ac offer, ddefnyddio’r un ffurflen gais i wneud cais am y ddau beth. Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Rydym yn cydnabod fod teuluoedd yn teimlo dan bwysau oherwydd costau byw a byddwn yn edrych am gymorth ariannol pellach i’w cynorthwyo. Gall y grant hwn fod o gymorth iddynt i dalu am y nwyddau hyn”.