Cynllun Meistr Teithio Llesol Rhuddlan
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda Sustrans Cymru ar Gynllun Meistr Teithio Llesol Rhuddlan i ddod o hyd i ffyrdd o wella llwybrau Teithio Llesol yn Rhuddlan. Rydym am wneud cerdded, olwyno a beicio’n fwy diogel ac yn fwy pleserus i bawb yn y gymuned ar gyfer siwrneiau bob dydd yn Rhuddlan a’r cyffiniau.
Gan mai chi yw’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn teithio yn yr ardal, mae arnom angen i chi ddweud wrthym sut gallai Rhuddlan weithio’n well i helpu pobl sy’n cerdded, olwyno a beicio ar gyfer eu siwrneiau bob dydd. Fe hoffem wybod beth sy’n gweithio’n dda, beth y mae angen ei wella, a lle’r ydych chi’n meddwl y gellid gwneud y newidiadau gorau.
Gallwch gymryd rhan wyneb yn wyneb yn ein Gweithdy Cyd-Ddylunio yng Nghanolfan Gymunedol Rhuddlan, Stryd y Senedd ar 31ain Ionawr 2023. Sylwer mai sesiwn galw heibio yw hwn, ac mae croeso i bobl fynychu unrhyw bryd rhwng 3:00-4:00yh a 6:00-7:30yh.
Gellir dod o hyd i daflenni gwybodaeth yng Nghanolfan Gymunedol Rhuddlan a Llyfrgell Rhuddlan – mae croeso ichi ddosbarthu taflenni o fewn eich rhwydwaith.
Gall unrhyw un na allant ymuno â’r gweithdy ond a hoffai gymryd rhan rannu eu hadborth gyda ni drwy lenwi’r arolwg ar-lein.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect, ewch draw i wefan ein prosiect. https://sustrans.info/TeithioLlesolRhuddlan
