Data symudol am ddim i aelodau eich cymuned – Holi ac Ateb 28 Mehefin 10am
Mae partner Cymunedau Digidol Cymru, Good Things Foundation, yn helpu miloedd o bobl agored i niwed mewn cymunedau ar draws y DU i gysylltu drwy eu Banc Data Cenedlaethol. Mae’r banc data yn mynd i’r afael â thlodi data yn uniongyrchol drwy ddarparu SIMS am ddim a data symudol i bobl mewn angen.
Mae’r Banc Data Cenedlaethol yn rhad ac am ddim i ymuno ag ef ac mae’n gyfle gwych i sefydliadau cymunedol sydd am ymwneud â chynhwysiant digidol, gan helpu aelodau eu cymuned i gael mynediad at holl fanteision bod ar-lein.
Mae CDC mewn partneriaeth â Good Things Foundation yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar gyfer sefydliadau yng Nghymru ar 28 Mehefin am 10am. Gallwch gofrestru am le drwy’r ddolen hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm y Banc Data yn databank@goodthingsfoundation.org.
