CADWCH YN WYBODUS

Dewch i gyfarfod tîm maethu Sir Ddinbych

Community Events

Rhannwch y Post:
Allech chi wneud gwahaniaeth mawr i fywyd plentyn yn Sir Ddinbych? Mae Maethu Cymru Sir Ddinbych yn agor y drysau i bobl sydd eisiau dysgu mwy am faethu plant yn y sir.

Dewch i gyfarfod tîm maethu Sir Ddinbych

Allech chi wneud gwahaniaeth mawr i fywyd plentyn yn Sir Ddinbych? Mae Maethu Cymru Sir Ddinbych yn agor y drysau i bobl sydd eisiau dysgu mwy am faethu plant yn y sir. Bydd digwyddiad croesawu a rhannu gwybodaeth yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn y Rhyl ar 26 Mai rhwng 6.30pm ac 8pm. Bydd tîm Maethu Cymru Sir Ddinbych wrth law i sgwrsio â’r rhai sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth. Hefyd, bydd gofalwyr maeth lleol yn bresennol yn y digwyddiad, yn barod i rannu eu profiadau am sut mae’n teimlo i gynnig amgylchedd caredig a gofalgar i blant y sir sydd angen cymorth. Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant: “Mae’r tîm wedi ymroi i weithio gyda theuluoedd maeth i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant yn Sir Ddinbych. Gall maethu olygu rhywbeth gwahanol i bob plentyn rydym yn gofalu amdanyn nhw, mae yna wahanol fathau o faethu a gwahanol rolau i’n gofalwyr, ac mae cyfle i chi ddysgu mwy yn y digwyddiad hwn. Yr hyn sy’n bwysig yw y gall pob profiad gael effaith gadarnhaol enfawr sy’n para oes. “Yn Sir Ddinbych, rydym yn dathlu natur amrywiol ac unigryw pob un o’n teuluoedd maeth. Dyma pam, os byddwch chi’n penderfynu dod yn ofalwr maeth, na ellir cymharu eich amgylchiadau chi ag unrhyw un arall. Eich stori chi sydd bwysicaf ochr yn ochr â’r cymorth a’r cartref y gallwch chi ei gynnig i blentyn yn Sir Ddinbych.” Os na allwch chi ddod i’r digwyddiad ym Mhafiliwn y Rhyl, gallwch gysylltu â ni drwy ein gwefan, fosterwales@denbighshire.gov.uk neu drwy ffonio 08007313215.  Mae’r tîm wastad yn hapus i siarad â chi heb roi unrhyw bwysau na disgwyliadau arnoch chi.