Drysau Agored 2021
Mis Medi yma bydd mwy na 150 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a rhyfeddodau annisgwyl Cymru yn cynnig mynediad am ddim, digwyddiadau neu deithiau tywys i ymwelwyr. Mae’r cyfan yn rhan o gynllun Drysau Agored – cyfraniad blynyddol Cymru i fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd.
Wedi’u hariannu a’u trefnu gan CADW, mae’r ŵyl yn annog preswylwyr Cymru ac ymwelwyr i fynd ar antur a darganfod rhai o safleoedd llai adnabyddus y wlad – sawl un sydd fel arfer wedi cau i’r cyhoedd.
Mae nifer o’r safleoedd hyn sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl i’w cael yn Sir Ddinbych gan gynnwys Dolbelydr, Gerddi Neuadd Gwaenynog, Canolfan ‘Woodland Skills’, Abaty Glyn Y Groes, Capel Y Rug a Chastell Dinbych.
Mae angen archebu eich lle ar gyfer rhai safleoedd. Edrychwch ar full list of sites i gymryd rhan yn Drysau Agored Medi 2021.
