CADWCH YN WYBODUS

Dyddiadau Casglu Gwastraff dros y Nadolig

Community Events

Rhannwch y Post:
Bydd rhai newidiadau i gasgliadau gwastraff oherwydd y dyddiadau eleni. Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd gwneir y newidiadau canlynol i gasgliadau gwastraff: Casgliadau gwastraff cartrefi
  • Bydd casgliadau gwastraff cartrefi yn digwydd ddydd Sadwrn, 23 Rhagfyr 2023, yn lle dydd Llun, 25 Rhagfyr 2023.
  • Bydd casgliadau gwastraff cartrefi yn digwydd ddydd Sadwrn, 30 Rhagfyr 2023, yn lle dydd Llun, 1 Ionawr 2024.
  • Bydd yr holl gasgliadau gwastraff cartrefi eraill yn digwydd fel arfer. Gofynnir i breswylwyr sicrhau bod biniau allan erbyn 7am ar ddiwrnod eu casgliad.
Casgliadau gwastraff ac ailgylchu masnachol
  • Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu masnachol yn digwydd ar y dyddiau arferol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Casgliadau gwastraff gardd Gwneir y newidiadau canlynol i gasgliadau gwastraff gardd sydd fel arfer yn digwydd ar ddydd Llun:
  • Bydd casgliadau gwastraff gardd yn digwydd ddydd Sadwrn, 23 Rhagfyr 2023, yn lle dydd Llun, 25 Rhagfyr 2023.
  • Bydd casgliadau gwastraff gardd yn digwydd ddydd Sadwrn, 30 Rhagfyr 2023, yn lle dydd Llun, 1 Ionawr 2024.
  Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gall cyfnod y Nadolig olygu llawer o wastraff gan ei fod yn amser i ni i gyd ddathlu. O bapur lapio i boteli, mae llawer o eitemau ychwanegol y mae ein timau gwastraff ardderchog yn eu casglu dros gyfnod y Nadolig. Rydym yn ddiolchgar i’r preswylwyr am ddeall y newidiadau hyn, a diolch am eu cydweithrediad.”