CADWCH YN WYBODUS

Ethol Cadeirydd ac is-Gadeirydd newydd I Sir Ddinbych

Community Events

Rhannwch y Post:
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ethol Cadeirydd ac is-Gadeirydd ar gyfer 2022/2023. Mewn cyfarfod yn Rhuthun, etholwyd y Cynghorydd Arwel Roberts (Rhuddlan) yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod.

Ethol Cadeirydd ac is-Gadeirydd newydd I Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ethol Cadeirydd ac is-Gadeirydd ar gyfer 2022/2023. Mewn cyfarfod yn Rhuthun, etholwyd y Cynghorydd Arwel Roberts (Rhuddlan) yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod. Yn y cyfamser, etholwyd y Cynghorydd Peter Prendergast (De Orllewin y Rhyl) is-Gadeirydd y Cyngor. Yn ystod y cyfarfod, mi ddiolchwyd I’r cynghorydd Alan James  am ei gyfnod o ddwy flynedd fel Cadeirydd. Penderfynwyd ymestyn cyfnod fel Cadeirydd am flwyddyn, o ganlyniad i Covid. Ymysg un o’i ddigwyddiadau elusennol oedd beicio o John O’ Groats i Lands End dros 12 diwrnod. Llwyddwyd I gasglu dros £4,000 tuag at Macmillan.