Grant Unigrwydd Ac Arwahanrwydd Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych 2022 – 2024
Mae CGGSDd yn falch o gyhoeddi, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, fod rownd newydd o’r Grant Unigrwydd ac Arwahanrwydd Cymdeithasol wedi’i ryddhau.
Gall rhywun o unrhyw oedran neu unrhyw gefndir brofi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Rydym yn deall yn gynyddol yr effaith y gall hyn ei chael ar ein lles corfforol a meddyliol, ac felly pwysigrwydd y perthnasoedd sydd gennym gyda theulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion i roi ein hymdeimlad o berthyn a llesiant i ni.
Mae’n ofynnol bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio i fodloni un neu fwy o’r meini prawf canlynol:
- Cynyddu cyfleoedd i bobl gysylltu
- Seilwaith cymunedol sy’n cefnogi cymunedau cysylltiedig
- Cymunedau cydlynol a chefnogol
- Adeiladu ymwybyddiaeth a hyrwyddo agweddau cadarnhaol
- Iechyd meddwl
Mae grantiau ar gyfer prosiectau unigol ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022-2023 a 2023-2024 am hyd at £5,000 y flwyddyn. Gallwch wneud cais am un neu ddwy flynedd o gyllid.
Dwedodd Tom Barham “Mae CGGSDd yn hapus iawn i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych i greu’r rhaglen grant hon i gefnogi pobl yn Sir Ddinbych i gael gwell cysylltiad a lleihau unigrwydd. Os ydych yn grŵp cymunedol, a bod gennych syniad gwych sut i ddod â phobl ynghyd, cysylltwch â ni.”
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Dyma enghraifft wych o’r gwaith partneriaeth cryf sy’n mynd rhagddo rhwng y Cyngor a’r sector wirfoddol, trwy Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych. Mae un o’n blaenoriaethau yn ein Cynllun Corfforaethol yn ymwneud ag adeiladu cymunedau gwydn, gan alluogi pobl i gael mynediad at gefnogaeth a chyngor yn lleol yn eu cymunedau.
“Byddem yn annog unrhyw un sydd â syniad ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd a fydd yn helpu i wella iechyd a llesiant meddwl pobl i edrych ar fanylion y cynllun ac ystyried cyflwyno cais”.
I wneud cais am y grant hwn edrychwch ar y Ffurflen Gais am Grant Yma.
Pam fyddwch wedi cyrchu’r ddogfen, cliciwch ar ‘File’ yn y gornel chwith uchaf a’i lawrlwytho i gael eich fersiwn addasadwy.
Gwybodaeth i Ymgeiswyr:
- Defnyddiwch Ffurflen Gais CGGSDd
- Mae grantiau ar gyfer prosiectau unigol hyd at £5,000 y flwyddyn ariannol
- Mae’r grantiau yn rhaglen dreigl ac mae’r cyllid yn gyfyngedig
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â 01824 702 441 neu e-bostiwch office@dvsc.co.uk
Nodiadau i Olygyddion
Manylion am Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd)
CGGSDd yw’r Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Sirol sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych. Ein cenhadaeth yw creu cymunedau cydnerth trwy weithredu gwirfoddol a mentrau cymdeithasol, darparu cymorth rhagorol i’n haelodau a bod yn llais dylanwadol yn Sir Ddinbych a Gogledd Cymru.
CGGSDd yw’r corff aelodaeth i unigolion, gwirfoddolwyr, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, mudiadau trydydd sector a mentrau cymdeithasol sydd am greu newid. Ein dyhead yw gwella llesiant unigolion a chymunedau trwy gyfrwng ein gwaith. Rydym ni am annog pobl i fyw’n dda, a heneiddio’n dda.
Mae CGGSDd yn gweithio’n agos gyda Chynghorau Gweithredu Gwirfoddol Sirol eraill Gogledd Cymru, ac mae’n aelod o rwydwaith Cymru gyfan sydd, mewn partneriaeth gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn ffurfio’r bartneriaeth sy’n llunio Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Er mwyn gwneud yn siwr eich bod chi’n cael y manylion diweddaraf pan fo cyfleoedd cyllid ar gael, gwnewch yn siwr eich bod yn tanysgrifio i’n rhestr bostio trwy ddilyn y ddolen – Tanysgrifio ar gyfer Diweddariadau Newyddion a Bwletinau.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch gyda Tom Barham, Prif Swyddog ar 01824 702 441 neu tom@dvsc.co.uk
Os ydych chi eisiau cefnogaeth i wirfoddolwyr, grantiau, cyllid neu gyngor llywodraethu, cysylltwch â gwasanaeth Cymorth Cymunedol CGGSDd ar 01824 702 441, trwy e-bost sectorsupport@dvsc.co.uk neu drwy sgwrs fyw.
Dilynwch ni ar Trydar @DVSC _Wales, LinkedIn, Instagram a hoffwch ein tudalen Facebook CGGSDd. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar You Tube.
