CADWCH YN WYBODUS

Gwaith Cynnal a Chadw ar ffyrdd Sir Ddinbych

Community Events

Rhannwch y Post:
Gwaith Cynnal a Chadw ar ffyrdd Sir Ddinbych Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynghori bydd gwaith cynnal a chadw cylchol yn digwydd ar ffyrdd y mis yma. Bydd arwyddion rhybudd yn cael eu gosod o flaen llaw, a bydd llythyrau’n cael ei ddarparu i eiddo. Mae’r gwaith cynnal a chadw cylchol yn waith y mae angen ei wneud ar gylch y cytunwyd arno, a bydd yn cynnwys torri gwair, codi sbwriel, glanhau draeniau a gwaith golau stryd. Bydd y ffyrdd ar gau rhwng 1900 a 0600 ar y dyddiadau isod: – Dydd Llun 18/09/2023 – A525 Talardy i KFC – Dydd Mawrth 19/09/2023 – A525 Rhuddlan Ffordd osgoi a A525 Bryn Cwybr i Ffordd Derwen – Dydd Llun 25/9/2023 – A547 Ffordd Abergele i Gylchfan Borth i ffin yr Ardal. Dywedodd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Dyma enghraifft arall o’r gwaith gwych mae tîm Gwasanaethau Stryd a Phriffyrdd yn ei wneud i gynnal a chadw ffyrdd Sir Ddinbych. Hoffem ddiolch i bob teithiwr am eu cydweithrediad tra bod y gwaith yn digwydd”.