CADWCH YN WYBODUS

The 2023 Aelwyn Morgan Award

Community Events

Rhannwch y Post:
Gwobr Aelwyn Morgan 2023 Mae Gwobr Aelwyn Morgan yn cael ei chyflwyno’n flynyddol gan Gyngor Tref Rhuddlan i unigolyn neu unigolion sydd wedi gwneud gwaith eithriadol yn ein cymuned leol. Roedd Aelwyn Morgan yn gyn-bennaeth Ysgol y Castell ac roedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei edymygu’n fawr; gwnaeth gyfraniad sylweddol i’n cymuned ac mae’r wobr hon er cof amdano. Mae’r cyngor yn falch iawn o gyhoeddi mai enillydd 2023 yw Richard Polden.  Mae Richard wedi gwirfoddoli gyda’r RNLI ers 1973 ac ef yw cadeirydd Cymdeithas Hanes Lleol Rhuddlan ar hyn o bryd, ac ysgrifennydd a thrysorydd Grŵp Cymunedol Rhuddlan. Cafodd Richard ei enwebu gan nifer o breswylwyr lleol, ac mae rhai o’u sylwadau wedi’u cynnwys isod: “Mae Richard wedi parhau i wneud gwaith anhygoel gyda’r RNLI, Cymdeithas Hanes Lleol Rhuddlan a Grŵp Cymunedol Rhuddlan tra’n gwella yn dilyn damwain ddifrifol” “Mae Richard yn dod ag egni ac ymroddiad i’w holl waith gwirfoddol ac mae’n annog pobl gyda’i agwedd gadarnhaol iawn” Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Mike Kermode “Un o fy themâu allweddol yw canmol y gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn Rhuddlan gan gynifer o wirfoddolwyr. Mae Richard Polden yn enghraifft wych o hyn gan ei fod yn gwneud cymaint o waith gyda Grŵp Cymunedol Rhuddlan a Chymdeithas Hanes Rhuddlan, yn ogystal â chynnig cefnogaeth i grwpiau eraill. Dyma’r math o wasanaeth cymunedol y mae gwobr Aelwyn Morgan yn dymuno ei ddathlu.”. Cyflwynwyd y wobr i Richard gan y Maer, y Cynghorydd Mike Kermode, yng nghyfarfod y cyngor ym mis Medi. Yn y llun mae Richard a’r Maer, y Cynghorydd Mike Kermode.